Read this page in Welsh ~ Darllenwch y dudalen hon yn Gymraeg

Welcome to Social Farms & Gardens Community Land Advisory Service Cymru

  • Is your community looking for land to set up a community garden or food growing project?
  • Would you like to use local authority land for a wildlife project?
  • Do you need help getting permissions to use land for the benefit of your community?
  • Do you need guidance on setting up and progressing your green space project?  

The Community Land Advisory Service in Wales (CLAS Cymru) is funded by Welsh Government to support community green space projects to acquire land and gain all the necessary permissions, including planning, so that they can set up and manage green spaces as effectively as possible. The service provides a specialist support and advice service as well as valuable resources for accessing land and gaining permissions for community led green space projects across Wales.  

CLAS Cymru Introduction Form

Our CLAS Cymru Advisors need to learn a little more about yourself/ your projects before we can decide how to help you, Click the button below to fill out a short form:
 
clas_support.png

CLAS Awards

The ‘Community Land Advisory Service Cymru Community Management Award’ began in 2019 and is run by Social Farms & Gardens to acknowledge the community management of green spaces.

Our annual CLAS Cymru Awards will take place at Y Plas Machynlleth on Wednesday 13th March 2024.

button_13.png       button_17.png

Improving planning rights for allotment holders and community growers

SF&G has been working to improve planning rights and allotments.  We are pleased to see the Welsh Government has incorporated these new planning rights for community growers of all kinds. Please see our press release here.

Storage sheds and greenhouses – permitted development

The Town and Country Planning (General Permitted Development) Order 1995 (the “GPDO”), as amended, allows some minor development to be undertaken, within certain parameters, without the need to apply to the Local Planning Authority for planning permission. This is known as “permitted development”.

The GPDO has recently been amended to provide permitted development rights (PDRs) for development consisting of the erection, extension, alteration or replacement of storage sheds and greenhouses on community growing spaces. Some limitations apply to manage the visual and environmental impact of the development permitted. This means, in some circumstances, not everyone can benefit from these rights and will need to apply to their local planning authority for planning permission if the structure constitutes development. The extent that you can benefit from the PDRs depends on the size of the growing space and the size of the storage shed and greenhouse.
 
Please see our FACTSHEET which provides guidance for growers in Wales, on how to work out if you need planning permission. This is meant as a guide only and growers should always contact your local planning authority or the CLAS Cymru programme to gain further advice. 

Partners

CLAS Cymru works in collaboration with the Green Flag Community Award which is managed by Keep Wales Tidy. We are working with them to increase the number of community managed green spaces and the number of eligible green flag community sites. CLAS Cymru runs its own award programme called the CLAS Cymru Community Management Awards to recognise community projects that are working to set up new community green space projects such as orchards, woodlands and community gardens. Such projects are all contributing to highly valuable nature-based activities which are run by voluntary members of our communities who give up their spare time for the greater good of their local environment. The CLAS Cymru Awards are a stepping stone to achieving a Green Flag Community Award.

The CLAS Cymru programme has worked with Blake Morgan LLP Law Firm, Wright Hassall LLP Law Firm and Cardiff University Law School to provide training and to keep our knowledge, resources and templates up to date and helpful as possible.  

Contact Us

If you would like more information or need advice on getting land to set up your community green space project please contact our CLAS Cymru Coordinator Lucie Taylor - [email protected] 


Croeso i Gwasanaeth Cynghori Tir Cymunedol Cymru Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

  • Ydy eich cymuned yn chwilio am dir i sefydlu gardd gymunedol neu brosiect tyfu bwyd?  
  • Hoffech chi ddefnyddio tir yr awdurdod lleol ar gyfer prosiect bywyd gwyllt?  
  • Oes arnoch chi angen cymorth i dderbyn caniatâd er mwyn defnyddio tir at fudd eich cymuned?
  • Oes arnoch chi angen arweiniad ar sefydlu a datblygu eich prosiect llefydd gwyrdd?

Caiff Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru (CLAS Cymru) ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau llefydd gwyrdd cymunedol gael gafael ar dir a derbyn yr holl ganiatâd perthnasol, gan gynnwys caniatâd cynllunio, fel bod modd iddynt sefydlu a rheoli llefydd gwyrdd mor effeithiol â phosibl. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth arbenigol a gwasanaeth cynghori yn ogystal ag adnoddau gwerthfawr er mwyn caffael tir a derbyn caniatâd ar gyfer prosiectau llefydd gwyrdd gaiff eu harwain gan y gymuned ar draws Cymru.

Ffurflen Gyflwyno CLAS Cymru

Mae angen i'n Cynghorwyr CLAS Cymru ddysgu ychydig mwy amdanoch chi/eich prosieMae angen i'n Cynghorwyr CLAS Cymru ddysgu ychydig mwy amdanoch chi/eich prosiectau cyn y gallwn benderfynu sut i'ch helpu, Cliciwch ar y botwm isod i lenwi ffurflen fer:

cym_clas_support.png

Gwobrau CLAS

Dechreuodd ‘Gwobr Rheoli Cymunedol Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru’ yn 2019 ac fe gaiff ei rhedeg gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i gydnabod gwaith rheoli cymunedol o lefydd gwyrdd.

Bydd ein Gwobrau CLAS Cymru blynyddol yn cael eu cynnal ym Mhlas Machynlleth ddydd Mercher 13 Mawrth 2024.

button_13.png       button_17.png

Gwella hawliau cynllunio ar gyfer deiliaid rhandiroedd a thyfwyr cymunedol

Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi bod yn gweithio ar wella hawliau cynllunio a rhandiroedd. Rydym yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ymgorffori’r hawliau cynllunio newydd hyn ar gyfer tyfwyr cymunedol o bob math. Darllenwch ein datganiad i’r wasg yma.

Siediau storio a thai gwydr - datblygu a ganiateir

Mae’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (y “GDCG”), wedi’i diwygio, yn caniatáu ymgymryd ag ychydig o waith datblygu bach, o fewn paramedrau penodol, heb orfod ymgeisio i’r Awdurdod Cynllunio Lleol am ganiatâd cynllunio. Caiff hyn ei alw’n “Datblygu a ganiateir. 

Mae’r GDCG yn ddiweddar wedi’i diwygio i ddarparu Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer datblygiadau sy’n cynnwys codi, estyn, addasu neu amnewid siediau storio a thai gwydr mewn llefydd tyfu cymunedol. Mae rhai cyfyngiadau mewn lle i reoli effaith weledol ac amgylcheddol y datblygu a ganiateir. Mae hyn yn golygu, mewn rhai amgylchiadau, nid pawb all fanteisio o’r hawliau hyn a bydd angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio i’w awdurdod cynllunio lleol os bydd y strwythur yn cynnwys datblygiad. Mae faint y gallwch fanteisio o’r Hawliau Datblygu a Ganiateir yn dibynnu ar faint y lle tyfu a maint y sied storio a’r tŷ gwydr.

Darllenwch ein TAFLEN FFEITHIAU sy’n rhoi arweiniad i dyfwyr yng Nghymru ar sut i wybod a oes arnoch angen caniatâd cynllunio. Canllaw yn unig ydy hwn a dylai tyfwyr bob tro gysylltu gyda’ch awdurdod cynllunio lleol neu raglen CLAS Cymru am gyngor pellach.

Partneriaid

Mae CLAS Cymru yn cydweithio gyda Gwobr Gymunedol y Faner Werdd gaiff ei rheoli gan Gadwch Gymru’n Daclus. Rydym yn gweithio gyda nhw i gynyddu’r nifer o lefydd gwyrdd gaiff eu rheoli gan y gymuned a’r nifer o safleoedd cymunedol sy’n gymwys am y faner werdd. Mae CLAS Cymru yn rhedeg ei rhaglen wobrwyo ei hun o’r enw Gwobrau Rheoli Cymunedol CLAS Cymru i gydnabod prosiectau cymunedol sy’n gweithio ar sefydlu prosiectau llefydd gwyrdd cymunedol newydd fel perllannau, coetiroedd a gerddi cymunedol. Mae prosiectau o’r fath i gyd yn cyfrannu at weithgareddau natur gwerthfawr iawn gaiff eu rhedeg gan aelodau gwirfoddol o’n cymuned sy’n rhoi o’u hamser er budd eu hamgylchedd lleol. Mae gwobrau CLAS Cymru yn garreg gamu at gyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Mae rhaglen CLAS Cymru wedi gweithio gyda Chwmni Cyfreithiol Blake Morgan LLP, Cwmni Cyfreithiol Wright Hassall LLP ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd i gynnig hyfforddiant ac i sicrhau bod ein gwybodaeth, adnoddau a thempledi yn gyfredol ac mor ddefnyddiol â phosibl.

Cysylltwch gyda ni

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor ar gael gafael ar dir i sefydlu eich prosiect llefydd gwyrdd cymunedol, cysylltwch gyda’n Cydlynydd CLAS Cymru, Lucie Taylor - [email protected] 

CLAS Wales Case Studies

CLAS Wales FAQs

Goats

 

 

 

CLAS Wales News

Gardening

 

 

 

CLAS Wales Resources