ENGLISH

Trosolwg Mannau Gwyrdd Gwydn

Rhwng Medi 2021 a Mehefin 2023 buom yn arwain y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn. Galluogodd y prosiect partneriaeth hwn gwerth £1.27m ni i dreialu systemau bwyd amgen wedi’u hail-leoli yng Nghymru.

Nodau

Cyflwyno chwe ffrwd waith gydweithredol gyda'n partneriaid sy'n treialu systemau bwyd lleol. Cymunedau a’u mannau gwyrdd oedd y sbardun ar gyfer newid, a gwnaethant brofi’r hyn y gellir ei gyflawni o gael y gefnogaeth gywir, mynediad i dir a rhyddid i ddefnyddio eu cryfderau:

  1. Adeiladu Tîm Datblygu Rhandiroedd Cenedlaethol

  2. Hwbiau Bwyd Arloesol

  3. Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol

  4. Ymylon Gwyltt Ymylon Gwell

  5. Archwilio Mynediad Cymunedol i Ffermydd a Thir

  6. Meithrin Sgiliau Ffermio Garddwriaethol yn y Dyfodol

Partneriaid y prosiect

  • Social Farms & Gardens
  • Open Food Network UK
  • Shared Assets
  • Lantra
  • Land Workers' Alliance / Land Workers' Alliance Cymru
  • Development Trusts Association Wales
  • Gwynedd Council
  • Cardiff University

Arianwyr

Ariannwyd y prosiect drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Canlyniadau

Mae’r prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn wedi sicrhau manteision eang i gymunedau ac amgylcheddau ledled Cymru. Mae wedi gwella systemau bwyd, gyda phwyslais ar gynhyrchu lleol a ffermio amaeth-ecolegol. Mae cymunedau wedi datblygu'r hyder a'r sgiliau i ysgogi newid yn y dyfodol.

Bu ymchwilwyr o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr Bryste yn gweithio gyda’n tîm cyflwyno i ddatblygu Theori Newid ar gyfer pob ffrwd waith.

> Darllenwch adroddiad gwerthuso'r prosiect

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Archwiliwch y chwe ffrwd waith Mannau Gwyrdd Gwydn

Case Studies

Inspirational case studies from our members across the UK.

Events

Includes our own training events and workshops, and selected events and training run by organisations in the sector we think might be relevant. We aim to share the buzz and keep you informed.