Sylwch: Mae’r cynigion hyn ar gyfer grwpiau sy’n aelodau o’r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol yn unig ac nid ydynt yn gymwys i’r rhai nad ydynt yn aelodau nac unigolion preifat. Gall aelodau fynd at y cynigion drwy fewngofnodi a chlicio ar y ddolen Dewislen Disgowntiau a Chynigion Arbennig / Discounts & Special Offers Menu.


Jewson

Gyda dros 600 o ganghennau ledled y wlad, Jewson yw prif gyflenwr coed cynaliadwy a deunyddiau adeiladu’r DU. Agorwyd cangen gyntaf Jewson ym 1836 - mae wedi bod yn cyflenwi deunyddiau adeiladu ac yn cefnogi’r diwydiant ers 179 o flynyddoedd. Mae Jewson yn cynnig ystod eang o ddeunyddiau a chynhyrchion. Yn ogystal â choed a deunyddiau adeiladu, mae gan Jewson ganolfannau arbenigol tirlunio, gwaith saer, inswleiddio, llogi offer, brics, ceginau ac ystafelloedd ymolchi ar hyd a lled y wlad. Mae Cerdyn Partner Jewson / Jewson Partner Card yn cynnig telerau arbennig ar ddewis helaeth o gynhyrchion ym mhob un o’n canghennau ledled y DU i’r rhai sydd wedi talu i fod yn aelodau o’r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol.

 


Kings Seeds

Sefydlwyd Kings Seeds dros 125 mlynedd yn ôl, a dyma’r masnachwr hadau garddwriaethol cyfanwerthu annibynnol hynaf yn y DU. Mae’r cwmni’n awyddus i gynorthwyo ffermio a garddio cymunedol ac mae wedi cytuno i gynnig disgowntiau sylweddol ar ei brisiau arferol:

  • Disgownt o 40% ar archebion am hadau gwerth dros £35. Mae’r rhain yn hadau mewn pecyn plaen i’w defnyddio gan y grŵp sy’n aelod.
  • Disgownt o 50% ar stondinau arddangos hadau, tebyg i’r rheiny a welir mewn canolfannau garddio. Gall aelodau o FfFfDGC brynu pecynnau hadau lliwgar, darluniadol yn uniongyrchol oddi wrth Kings am hanner y pris argymelledig, a defnyddio stondin arddangos ar fenthyg, i’w gwerthu i gwsmeriaid.

 


Hadau Treftadaeth Thomas Etty

Bydd Thomas Etty, masnachwr hadau treftadaeth yng Ngwlad yr Haf, yn cynnig disgownt o 30% ar gyfer archebion gwerth dros £40.00, i aelodau’r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol. Mae’r cwmni wedi gofyn i ni gyflwyno’r neges fympwyol hon yn uniongyrchol oddi wrth Mr Etty ei hun:

Mr Etty begs (most respectfully), to bring to the notice of the Nobility, Gentry, Clergy, & Others, this his specialist seed catalogue. Wherein may be found listed an extensive selection of heritage vegetable varieties, together with herbs (both practical & culinary) and wild and cottage garden flowers. In doing so he trusts that his determination to select from none but the best stocks will ensure for him the patronage which it is his anxious study to merit.” Ceir copi o’r catalog hadau ar y wefan: www.thomasetty.co.uk/ “

 


Bulldog Tools

Mae Bulldog Tools yn cynnig disgownt ar eu hamrywiaeth o offer garddio o ansawdd uchel. Mae aelodau bellach yn gymwys i gael cyfanswm o 25% o ddisgownt ar brisiau Bulldog – sy’n 10% ychwanegol at y disgownt sydd ar gael ar-lein trwy Offer Garddio o Ansawdd dosbarthwyr y DU Bulldog.

 

Cefnogi ni

Mae angen eich cymorth arnom i helpu trawsffurfio tir a bywydau. Darganfyddwch fwy a helpwch ni i ffynnu!

Cefnogwyr unigol

Dewch yn gefnogwr a’n helpu ni i dyfu cymunedau ffyniannus.