Hyfforddai Amaethyddol a Gefnogwyd gan y Gymuned
Lleoliad: Cae Tan CSA, De Cymru
Lleolir Cae Tan ar Benrhyn Gwyr, De Cymru. Edrychwch ar ein gwefan a’r ffilm 9 munud yno gan ei fod yn esbonio ein gwaith www.caetancsa.org
Rydym yn edrych am berson sy’n fodlon gweithio’n galed i ymuno a’n tim ar gyfer Tymor 2020 o 1af o Ebrill hyd 31 Hydref.
Beth allwn gynnig i chi:
- Llety yn agos i’r cae, wedi ei rhannu â gwirfoddolwyr Ewropeaidd.
- Treuliau byw o £50 yr wythnos
- Gymaint o lysiau ffres a fedrwch fwyta
- Cymorth yn eich gwaith gyda ni er mwyn deall sut mae CSA yn gweithio
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Hadu, plannu, chwynnu, cynaeafu, pacio cynnyrch organig / beioddeinamig o ddydd i ddydd
- Gweithio ambell ddydd ar ein prosiect salad sy’n cyflenwi busnesau lleol
- Gweithio ochr yn ochr â staff a gwirfoddolwyr
- Gweithio gyda’n swyddog addysg yn ein prosiect ysgolion cynaladwy
- 4 diwrnod yr wythnos 9-5 gyda pheth dyfrio ar benwythnosau
- Cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio peiriannau
Beth hoffen ni wrthych chi:
- Cymhelliant i ddysgu am dyfu cynaladwy a datblygiad cymuned
- Parodrwydd i weithio’n galed ym mhob tywydd
- Y gallu i addasu a pharodrwydd i weithio a dod ymlaen â llawer o bobl gwahanol
I ymgeisio am y swydd anfonwch eich CV i tom@caetancsa.org
Hefyd atebwch y cwestiynau hyn:
- Pam ydych chi eisiau’r swydd?
- Beth yw’ch nodau hir-dymor mewn amaethyddiaeth gynaladwy?
- Pa brofiad pethnasol a nodweddion o’ch cymeriad fyddwch chi’n dod gyda chi?
Os oes unrhyw gwestiynau ffoniwch Tom ar 07791 696 848
Dyddiad cau: 19 Ionawr 2020.
Byddwn yn gwahodd y rhai a ddewisir i ddod i gyfweliad ym Mis Ionawr ond os hoffech ymweld â ni yn y cyfamser, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.