ENGLISH

Mannau Gwyrdd Gwydn - Ymylon Gwyllt Ymylon Gwell

resilient_green_spaces_greener_corridors_and_spaces_with_logos.jpg

Mae llinyn Ymylon Gwyllt Ymylon Gwell o’r Mannau Gwyrdd Gwydn yn anelu at gryfhau cymunedau er mwyn rheoli eu mannau gwyrdd cyhoeddus fel eu bod yn cysylltu’n well gyda natur a phobl. Bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, yn cefnogi cymunedau fel eu bod yn gallu rheoli ymylon a mannau gwyrdd cyhoeddus eraill (megis rhannau o erddi canolfannau cymunedol a pharciau) fel petai yn gynefin gweirglodd.

Mae’n bosib i ymylon fod o fudd anferth i fywyd gwyllt! Mae gan Wynedd gannoedd o filltiroedd o ymylon ffyrdd, ac o’u rheoli yn iawn gallant ffurfio rhwydwaith o goridorau bywyd gwyllt ar draws y sir gan gynnal bywyd gwyllt gwerthfawr sy’n cynnwys planhigion, gwenyn, glöynnod byw, ystlymod ac ymlysgiaid.

Mae gan Gyngor Gwynedd ddyletswydd i gynnal a chadw y rhwydwaith ffyrdd fel eu bod yn ddiogel i’w defnyddio ac yn rydd o rwystrau. Mae’r broses yma yn cynnwys torri gwair ar ymylon er mwyn sicrhau bod golwg glir gan bobl mewn mannau fel cyffyrdd, encilfeydd a thu fewn troadau. Er taw cyfrifoldeb tirfeddianwyr cyfagos yw torri gwrychau, mae Cyngor Gwynedd hefyd yn torri rhai perthi mewn mannau sydd eisiau gwelededd clir. Mae angen Rheolaeth Bywyd Gwyllt os ydym am gadw ymylon fel cynefinoedd bywyd gwyllt.

Mae Plantlife wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer rheoli ymylon sy’n amlinelli pedwar o egwyddorion rheoli:

  1. Mae rheolaeth blynyddol yn hanfodol (bydd llystyfiant cwrs yn datblygu os na thorrir y glaswellt am flwyddyn. Mewn amser bydd ymylon heb eu torri yn datblygu mewn i goetir a phrysgwydd).
  2. Tyfu, blodeuo, hadu, torri. (mae angen i blanhigion dyfu, blodeuo a chynhyrchu hadau er mwyn ffynnu).
  3. Cewch wared ar y torion (mae torion gwair yn tagu planhigion ac yn gwella ansawdd pridd).
  4. Cymysgedd (mae cymysgedd o wair hir, gwair byr, prysgwydd a choetir yn  cynnal mwy o rhywogaethau).

Ar yr ymylon tu allan i drefi a phentrefi mae Cyngor Gwynedd wedi newid y dulliau o dorri er mwyn dilyn canllawiau Plantlife mor agos ag sy’n bosib – er bod cael gwared ar y torion yn broblem oherwydd bod gymaint o ddeunydd! Maen nhw hefyd yn torri ‘stribed gwelededd’ o 1m yn rheolaidd – sy’n rhoi ymddangosiad mwy cymen i’r ymylon ac mae hefyd yn bwysig ar gyfer diogelwch.

Sut bynnag, o fewn trefi a phentrefi mae’r gyfundrefn torri yn wahanol – mae ymylon yn cael eu torri llawer yn fwy aml fel bod pobl yn gallu cerdded arnynt yn ddiogel ac mae’n edrych yn fwy cymen. Mae rhai ymylon a mannau gwyrdd eraill mewn cymunedau sy’n addas i’w rheoli ar gyfer bywyd gwyllt – a dyna eich gwaith chi!

Fideos

Rheoli ein mannau gwyrdd ar gyfer peillwyr

Gwyliwch ein animeiddiad byr gan Animated Tech sy'n esbonio sut a pham i reoli mannau gwyrdd ar gyfer peillwyr mewn ffordd syml ac effeithiol. Mae llawer o awdurdodau lleol yn newid y ffordd maen nhw'n rheoli ymylon ffyrdd ac ardaloedd dinesig eraill.  Efallai bod gennych fan gwyrdd lleol a allai gynnig cynefin i beillwyr a blodau gwyllt prydferth i bobl eu mwynhau – fel ymylon parc, mynwent, gwyrdd pentref neu ardd ysgol.

Gweminarau

Dal i weld ein gweminar 'Wonderful Waxcaps of Wales' gyda'r Athro Gareth Griffith o Brifysgol Aberystwyth. 

#MaiDiDor

Drwy gydol mis Mai roeddem yn annog grwpiau a chynghorau i gymryd rhan mewn #MaiDiDor - mae ymchwil ymgyrchu wedi datgelu y gall torri'ch lawnt yn llai aml ddarparu digon o siwgr neithdar am ddeg gwaith faint o wenyn, glöynnod byw, gwyfynod, betys a phryfed peillio eraill. Dangosodd canlyniadau #MaiDiDor y llynedd fod garddwyr a gymerodd ran wedi adrodd am hyd at 250 o rywogaethau o blanhigion, gan gynnwys garlleg gwyllt, mefus gwyllt, tegeirianau sy'n dirywio a'r britheg blodau dolydd prin, sy'n blodeuo o fewn y glaswelltau.

Darllenwch rai ystadegau #MaiDiDor isod:

mai_di_dor.png

Adnoddau

Mae rheolaeth gan gymunedau o ymylon ffyrdd a mannau cymunedol gwyrdd eraill yn hanfodol os ydym eisiau cynnal a chynyddu eu gwerth ar gyfer bywyd gwyllt. Os hoffech chi gymryd rhan, rydym wedi casglu rhai cwestiynau cyffredin ac arweiniad er mwyn eich rhoi ar ben ffordd.

Efallai bydd y canllawiau Plantlife hyn ar sut i adnabod blodau a chreu dolydd yn ddefnyddiol:

•    Planhigion Dolydd Blodau Gwyllt
•    Sut mae creu Dolydd

Cymerwch ran

Os hoffech fod yn rhan o hyn yna llanwch y ffurflen gyswllt hon ac anfonwch at yr arweinwyr llif gwaith (cyfeiriadau e-bost isod).
Os hoffech fwy o fanylion yna cysylltwch ag un o’r arweinwyr llif gwaith:

Ff&G C: [email protected]
Cyngor Gwynedd: [email protected]

Ymylon Gwyllt Ymylon Gwell yn un o chwe llinyn gwaith yn y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn. Gweler ein trosolwg Mannau Gwyrdd Gwydn i ddarganfod mwy.

Ariennir Mannau Gwyrdd Gwydn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

rgs_partners_banner_2_lines_4_1.png

CLAS Wales

Curabitur quis augue ac felis eleifend scelerisque in at nisi. Praesent non fermentum massa. Nam auctor luctus augue, eu lobortis risus ultricies ut.

Events

Includes our own training events and workshops, and selected events and training run by organisations in the sector we think might be relevant. We aim to share the buzz and keep you informed.