Sustainable Food Procurement for Local Prosperity

News item first posted on: 06/05/22
Sustainable Food Procurement for Local Prosperity: Evaluation Brief 

Budget: £12,500 evaluation + £5,000 for final recommendations and dissemination materials (Two pieces of work could be commissioned separately).
Timeframe: May 2022 – June 2023 (13 months).

Closing date for tenders is 23rd May 2022.

Project Overview

This pilot project is about creating an evidence base to prove that the public sector CAN procure efficiently from local producers using methods that benefit the natural environment and local prosperity. It will pilot the use of Food Hubs as a mechanism for local producers to provide the scale and technology needed to supply the public sector effectively. 

During 2020, Covid-19 and Brexit negotiations have highlighted many of the issues that Wales faces in producing its own food, particularly food that improves the health of our nation, reduces socio-economic inequalities and enhances biodiversity. 

We will support two Food Hubs (in Powys and Carmarthenshire) to expand their reach and move into procurement, whilst still delivering the Food Hub vision of a connected, local and environmentally-sound model. Procured services in the UK is a minefield of legislation, bureaucracy and paperwork, the Partnership will provide expertise and training to ensure access for Hubs and growers. We will develop and adapt existing technology to meet the needs of customers using procurement systems and provide added data to build the case for this model. Powys and Carmarthenshire rural regions are already exploring innovative approaches and collaboration to develop local supply chains. We will support them with investments to diversify and work towards the economic and environmental benefits proposed within the forthcoming Agriculture (Wales) Bill. The case studies and data we produce will be disseminated via Sustainable Food Places and other networks to encourage wider participation from large-scale purchasers, growers and rural communities.

Please click here for full details and application process

Contact for further information:
Alison Sheffield, Project Coordinator,
Social Farms & Gardens
[email protected]
07752 542 853
www.farmgarden.org.uk


Caffael Bwyd Cynaliadwy er budd Ffyniant Lleol: Briff Gwerthuso

Cyllideb: £12,500 gwerthuso + £5,000 ar gyfer argymhellion terfynol a deunyddiau dosbarthu (Gellir comisiynu dau ddarn o waith ar wahân).
Amserlen: Mai 2022 – Mehefin 2023 (13 mis).

Y dyddiad cau ar gyfer tendrau yw 23 Mai 2022.

Trosolwg o’r Prosiect
Diben y prosiect peilot hwn yw creu sylfaen dystiolaeth i brofi y GALL y sector cyhoeddus gaffael mewn ffordd effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd naturiol a ffyniant lleol. Bydd yn peilota defnyddio Hybiau Bwyd fel cyfrwng i gynhyrchwyr lleol ddarparu maint y cynnyrch a’r dechnoleg sydd eu hangen i gyflenwi’r sector cyhoeddus mewn ffordd effeithiol.
Yn ystod 2020, mae Covid-19 a thrafodaethau ar destun Brexit wedi amlygu llawer o’r problemau sy’n wynebu Cymru o ran cynhyrchu bwyd ei hun, yn enwedig bwyd sy’n gwella iechyd y genedl, sy’n lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, ac sy’n cyfoethogi bioamrywiaeth.

Byddwn yn cefnogi dau Hwb Bwyd (ym Mhowys a Sir Gâr) i ehangu eu cyrhaeddiad a symud i faes caffael, ac ar yr un pryd gwireddu gweledigaeth Hybiau Bwyd o ran model cysylltiedig, lleol sy’n gadarn o safbwynt amgylcheddol. Mae caffael gwasanaethau yn y DU yn dir peryglus o ran deddfwriaeth, biwrocratiaeth a gwaith papur, a bydd y Bartneriaeth yn cynnig arbenigedd a hyfforddiant i sicrhau mynediad ar gyfer Hybiau a thyfwyr. Byddwn yn datblygu ac yn addasu technoleg gyfredol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid trwy ddefnyddio systemau caffael, a darparu data ychwanegol i adeiladu’r achos dros y model hwn. Mae rhanbarthau gwledig Powys a Sir Gâr eisoes yn ystyried dulliau gwaith a chydweithio arloesol i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol. Byddwn yn rhoi cefnogaeth iddynt trwy fuddsoddiad i arallgyfeirio a gweithio tuag at y buddion economaidd ac amgylcheddol arfaethedig sy’n rhan o Fil Sector Amaethyddol (Cymru) sydd ar fin ei gyhoeddi. Caiff yr astudiaethau achos a’r data a gynhyrchir eu dosbarthu trwy Leoliadau Bwyd Cynaliadwy a rhwydweithiau eraill i annog mwy o brynwyr mawr, tyfwyr a chymunedau gwledig i gymryd rhan.

Cliciwch yma am fanylion llawn a'r broses ymgeisio

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Alison Sheffield, Cydlynydd y Prosiect,
Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
[email protected]
07752 542 853
www.farmgarden.org.uk