ENGLISH

Adeiladu Sgiliau Ffermio'r Dyfodol Garddwriaethol

resilient_green_spaces_building_horticultural_future_farming_skills_with_logos.jpg


Mae ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant yn allweddol i gynnal dyfodol bwyd lleol. Mae mwy o bobl yng Nghymru yn dangos diddordeb mewn tyfu bwyd yn fasnachol, felly mae’r hyfforddiant cywir yn hanfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyfwyr.

Partneriaid y prosiect

  • Social Farms & Gardens
  • Lantra
  • Land Workers' Alliance Cymru
  • Cardiff University 
  • Cae Tan Community Supported Agriculture project

Nodau

  • Mapio'r ddarpariaeth hyfforddiant garddwriaeth bresennol ac anghenion presennol y sector

  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth briodol i bobl mewn garddwriaeth fwytadwy

  • Gwrthweithio canfyddiadau negyddol o yrfaoedd ffermio garddwriaethol

Canlyniadau

  • Cynhyrchodd y sefydliad hyfforddi blaenllaw Lantra adroddiad allweddol ar hyfforddiant garddwriaethol presennol ac anghenion y sector.

  • Mae Lantra hefyd yn datblygu hyfforddiant newydd drwy Tyfu Cymru, sy'n cefnogi tyfwyr yng Nghymru. Mae prosiect CSA Cae Tan a'r Landworkers Alliance hefyd yn cefnogi cyflwyno hyfforddiant.

  • Mae ein partneriaid yn Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd yn archwilio sut i wrthsefyll canfyddiadau negyddol o yrfaoedd mewn ffermio garddwriaeth. Mae'r Brifysgol yn ymgysylltu'n greadigol â phobl ifanc a hefyd yn gwerthuso'r prosiect.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â’n tîm yng Nghymru yn [email protected]

Ynglŷn â Mannau Gwyrdd Gwydn

Mae Building Horticultral Future Farming Skills yn un o chwe llinyn gwaith yn y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn. Gweler ein trosolwg Mannau Gwyrdd Gwydn i ddarganfod mwy.

Ariennir Mannau Gwyrdd Gwydn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

rgs_partners_banner_2_lines_4.png

Events

Includes our own training events and workshops, and selected events and training run by organisations in the sector we think might be relevant. We aim to share the buzz and keep you informed.