Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol

  • Rydym yn helpu cymunedau i dyfu
  • Rydym yn rhoi llais cenedlaethol i fudiad o grwpiau lleol
  • Mae ein harbenigedd yn golygu y gall tyfwyr cymunedol oroesi a ffynnu.

O erddi cymunedol bach iawn i ffermydd dinesig gwasgarog, mae FfFfDGC yn helpu grwpiau ar lawr gwlad i greu buddion gwirioneddol ar gyfer eu cymuned. O ganlyniad, rydym ni bob amser yn cael ein hysbrydoli a’n rhyfeddu gan y bobl a’r lleoedd yr ydym yn eu cefnogi.

Ers sefydlu FfFfDGC ym 1980, rydym wedi gweithio gyda ffermydd a gerddi cymunedol, ffermydd ysgol, ffermydd gofal, gerddi bywyd gwyllt a gerddi to, perllannau cymunedol, rhandiroedd sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned, a chynlluniau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned.

Rydym wedi helpu i ddod â thyfu cymunedol i’r brif ffrwd, wedi bod yng nghanol y cynnydd mewn tyfu bwyd lleol, ac wedi ennill llawer o gefnogwyr ar hyd y ffordd, gan gynnwys ein noddwr, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Heddiw, mae gennym dîm o weithwyr datblygu arbenigol ledled y DU, sy’n cyflwyno arweiniad, hyfforddiant ac anogaeth yn uniongyrchol i’n haelodau. O’n pencadlys ym Mryste, rydym yn gweithio gyda’r Llywodraeth, cyllidwyr a chorfforaethau mawr, gan roi gwybod i’r rheiny sydd mewn pŵer am y gwaith gwych y mae ein haelodau yn ei wneud.

Rydym yn cefnogi’n uniongyrchol bron 700 o grwpiau sy’n aelodau (yn ogystal â rhoi cymorth anuniongyrchol i gannoedd o grwpiau eraill).

Weithiau, yn achlysurol iawn, rydym yn cael cyfle i fynd allan i’r awyr agored, a baeddu ein dwylo hefyd!

Pwy ydym ni’n eu cefnogi?

Rydym yn cefnogi unrhyw un sy’n uno â phobl eraill yn eu cymdogaeth i greu a meithrin lle gwyrdd er budd eu cymuned.

Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae FfFfDGC yn aelod o Ffederasiwn Ffermydd Dinesig Ewrop, sydd â’r nod o hyrwyddo buddion a chydweithrediad ffermydd dinesig a sefydliadau tebyg. Caiff Ffederasiwn Ffermydd Dinesig Ewrop ei redeg gan wirfoddolwyr. Ewch i www.cityfarms.org i gael mwy o wybodaeth.

Dod yn aelod

Ymunwch â FfFfDGC fel aelod taledig, a gallwch fwynhau amrywiaeth wych o fuddion i’ch helpu i dyfu

Ein gwaith

Rydym yn un o elusennau blaenllaw’r DU, sy’n ymroddedig i gefnogi ffermydd dinesig, gerddi cymunedol a lleoedd gwyrdd eraill.