Trwy gydol y flwyddyn a ledled y DU, rydym yn cynnig digwyddiadau hyfforddi a gweithdai ar bob agwedd ar ffermio dinesig a garddio cymunedol a reolir gan y gymuned, gan gynnwys:

  • Hwsmonaeth a lles anifeiliaid
  • Ymglymiad y gymuned
  • Cyllid a chyllidebu
  • Garddwriaeth
  • Rheoli defnydd tir
  • Gofynion cyfreithiol
  • Rolau’r pwyllgor a rolau rheoli
  • Gweithio gyda phobl ifanc, gwirfoddolwyr a phobl ag anghenion arbennig
  • Cynllunio a dylunio
  • Staffio

Rydym yn amlygu digwyddiadau hyfforddi yn rheolaidd, drwy dudalennau rhanbarthol a thudalennau gwledydd ein gwefan, a thrwy ein cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol (cofiwch: mae aelodau taledig yn cael disgownt sylweddol ar y digwyddiadau hyfforddi hyn).  

Hefyd, fel arfer, gallwn eich cysylltu chi â fferm ddinesig neu ardd gymunedol o fewn pellter teithio i chi, ac rydym bob amser yn hapus i roi cyngor a chymorth ar reoli gerddi a ffermydd fel cymuned. Gallwn roi cyngor trwy ohebiaeth dros y ffôn neu ar y safle, os yw’n briodol.

Yn sefydlu gardd neu fferm gymunedol?

Rydym yn argymell bod unrhyw un sy’n ystyried sefydlu grŵp newydd yn darllen ein Pecyn Cychwynnol ar gyfer Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol. Mae’r rhain ar gael yn ein Canolfan Adnoddau.

Os hoffech wybod pa ddigwyddiadau hyfforddi (a chyfleoedd rhwydweithio) sydd ar gael yn agos atoch chi, ewch i’r dudalen Yn Eich Ardal Chi.

Dod yn aelod

Ymunwch â FfFfDGC fel aelod taledig, a gallwch fwynhau amrywiaeth wych o fuddion i’ch helpu i dyfu

Ein gwaith

Rydym yn un o elusennau blaenllaw’r DU, sy’n ymroddedig i gefnogi ffermydd dinesig, gerddi cymunedol a lleoedd gwyrdd eraill.