Rydym yn hoffi gweithio gyda sefydliadau eraill i gefnogi ein mudiad ac rydym wedi bod yn gysylltiedig â nifer o bartneriaethau a phrosiectau ar y cyd dros y blynyddoedd.

Mae gweithio fel hyn yn caniatáu i ni ymestyn ein dylanwad ymhellach, na fyddai’n bosibl trwy weithio ar ein pennau ein hunain. Mae’n ein galluogi ni i greu rhai buddion gwych ar gyfer ein haelodau, yn ogystal â chodi proffil materion fel cynaliadwyedd, bwyta’n iach, addysg, mentrau cymdeithasol ac adfywio cymdogaethau.

Cewch wybodaeth am ein partneriaethau a’n prosiectau diweddaraf isod:

Tyfu Gyda’n Gilydd

Mae hon yn fenter partneriaeth sydd â’r nod o helpu grwpiau tyfu cymunedol i ffynnu’n ariannol trwy ddod o hyd i opsiynau eraill ar wahân i gyllid grantiau. Bydd Tyfu Gyda’n Gilydd (a gefnogir gan y Gronfa Loteri Fawr) yn datblygu a hyrwyddo syniadau da er mwyn i grwpiau gael incwm cytbwys, cynaliadwy.  

Cewch fwy o wybodaeth ar: www.growingtogether.community


Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol (CLAS) yn mynd i’r afael â’r diffyg tir sydd ar gael ar gyfer garddio cymunedol a gweithgareddau cysylltiedig, trwy weithio gyda pherchenogion tir a grwpiau cymunedol.

Mae CLAS yn darparu cyngor uniongyrchol oddi wrth gynghorwyr arbenigol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae portffolio cynhwysfawr o adnoddau gwybodaeth hefyd - llawer ohonynt wedi cael eu creu’n arbennig gan CLAS - trwy ei wefan, yn ymdrin â phynciau fel tir, gwybodaeth ar gyfer perchenogion tir, cynllunio, awgrymiadau trafod a gwybodaeth am brydlesau. 

Cewch fwy o wybodaeth ar: www.communitylandadvice.org.uk/wales


Baner Werdd: Gwobrau Lle Gwyrdd Cymunedol

Rydym yn bartner yng Nghynllun Gwobrau Baner Werdd, yn gweithio gyda Cadwch Brydain yn Daclus, a’i sefydliadau priodol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae FfFfDGC yn datblygu Gwobr Gymunedol Baner Werdd, gan ddechrau gyda Phrosiect Gwobrau Lleoedd Gwyrdd Cymunedol ym Manceinion Fwyaf, lle mae garddwyr cymunedol a’r sector tai cymdeithasol yn cael cyfle i gael cymorth a hyfforddiant i ddatblygu gerddi cymunedol ffyniannus. Y nod yw helpu grwpiau tyfu lleol i gael mynediad at offer, hyfforddiant ac ymweliadau â safleoedd llwyddiannus. Bydd hyn yn helpu i feithrin gallu’r grŵp a hyder cymunedau cyfranogol, o ran rheoli eu lleoedd gwyrdd eu hunain.

Cewch fwy o wybodaeth ar: www.facebook.com/communitygreenspaceaward


Prosiect Gardeniser

Mae Gardeniser yn brosiect rhannu sgiliau unigryw, i ddatblygu a hyrwyddo hyfforddiant hwylusydd garddio, i helpu i ddatblygu gerddi cymunedol yn Ewrop. Mae’r prosiect, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, yn adeiladu ar raglen flaenorol ar arddio trefol, o’r enw Otesha. Dechreuodd y cydweithrediad ym mis Tachwedd 2013.

Cewch fwy o wybodaeth ar: http://gardeniser.eu


Rhwydwaith Ffermydd Ysgol

Mae mwy na 110 o ffermydd ysgol yn y DU erbyn hyn. Fe wnaeth FfFfDGC helpu i sefydlu a chydlynu’r Rhwydwaith Ffermydd Ysgolion, sy’n cynnig cefnogaeth a chymorth i ffermydd ysgol, yn cydlynu cyfarfodydd ac yn hwyluso cyfnewid syniadau a gwybodaeth, gan gynnwys cymorth athro cymheiriaid. Hefyd, anfonir e-gylchlythyr yn rheolaidd at aelodau, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw, a chaiff y dudalen we hon ei diweddaru â gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys manylion cyswllt.

Cewch fwy o wybodaeth ar: www.schoolfarms.org.uk

 

Cefnogi ni

Mae angen eich cymorth arnom i helpu trawsffurfio tir a bywydau. Darganfyddwch fwy a helpwch ni i ffynnu!

Dod yn aelod

Ymunwch â FfFfDGC fel aelod taledig, a gallwch fwynhau amrywiaeth wych o fuddion i’ch helpu i dyfu