Rydym yn elusen fach sy’n ceisio gwneud gwaith mawr, felly, mae angen help arnom drwy’r amser. Gall eich cymorth ariannol helpu i feithrin cymunedau gwell, agosach ac iachach. Gyda’ch arian, gallwn gefnogi grwpiau lleol sy’n cael effaith sy’n newid bywyd ar bobl. Gan ei bod hi’n dod yn anoddach nag erioed o’r blaen i gael cyllid grant, bydd eich rhodd hael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae sawl ffordd y gallwch roi:
Rhoddi
Os hoffech roi trwy gerdyn credyd neu debyg, cliciwch ar yr eicon isod, a fydd yn mynd â chi i’n system rhoddi ar-lein:
Os cewch unrhyw broblemau, neu os fyddai’n well gennych roi rhodd yn uniongyrchol, yna:
- Ffoniwch 0117 923 1800 neu anfonwch neges e-bost at: [email protected]
- Ysgrifennwch atom at The GreenHouse, Hereford Street, Bristol BS3 4NA, ac amgáu siec yn daladwy i FCFCG
Gadael Etifeddiaeth
Rhowch hwb i waith meithrin cymunedau gwell ar gyfer y dyfodol trwy etifeddiaeth – rhodd ariannol trwy eich ewyllys. I ddarganfod mwy ynghylch sut i wneud hyn, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r manylion uchod.
Cyllid
Rydym bob amser yn awyddus i weithio gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau i gynhyrchu incwm ar gyfer ein gwaith. Mae gennym hanes dymunol a llwyddiannus o weithio gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys sefydliadau’r sector gwirfoddol, adrannau’r llywodraeth, cyrff statudol ac ymddiriedolaethau cyllido annibynnol, a’r cyfryngau. Rydym yn agored i grantiau gwaith craidd neu’n seiliedig ar brosiectau.
- Ffoniwch ni ar 0117 923 1800
- E-bost: [email protected]
- Ysgrifennwch at: Jeremy Iles (Chief Executive) FCFCG, The GreenHouse, Hereford Street, Bristol BS3 4NA
Partneriaethau busnes a chorfforaethol
Ar gyfer partneriaethau busnes a chorfforaethol, ewch i’n Tudalen Ymholiadau Corfforaethol.
Astudiaethau Achos

Mae ein hastudiaethau achos ysbrydoledig yn dangos sut rydym yn cefnogi aelodau i greu cyfleoedd i bobl leol.