Darparwn lais cryf dros y sector tyfu cymunedol drwy:

  • Gynrychioli eich buddiannau i lywodraethau’r DU, cyllidwyr a phenderfynwyr allweddol eraill
  • Datblygu ffrydiau cyllido newydd ar gyfer ein haelodau
  • Dylanwadu ar bolisi yn y dyfodol sy’n cael effaith gadarnhaol ar eich gwaith.

Mae pob un o’n haelodau yn elwa o’r gwaith hwn – ymunwch â ni a gwneud ein llais yn un cryfach.

Mae buddion gwych eraill bod yn aelod yn cynnwys:

  • Cyngor, hyfforddiant a chyfleoedd i rwydweithio: Cyfraddau mynychu disgownt yn ein digwyddiadau hyfforddi a rhwydweithio, bwrsariaethau teithio i ymweld â grwpiau eraill (yn amodol ar gyllid), cyngor gan ein tîm staff profiadol, ac aelodaeth o rwydweithiau arbenigol y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi: E-gylchlythyr Aelodau Lleoedd Tyfu gyda diweddariadau, cyfleoedd cyllido, newyddion a rhwydweithio. Diweddariadau rhanbarthol/penodol i wlad gyda gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch lleoliad chi. Adnoddau arbenigol ar ein gwefan i’ch helpu i ddatblygu eich prosiect.
  • Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo: Mynnwch gael eich cynnwys ar ein map ar-lein o safleoedd tyfu cymunedol gyda phroffil sy’n rhoi manylion am eich prosiect. Gallwch hysbysebu eich swyddi ar ein gwefan (y gost arferol i’r rhai nad ydynt yn aelodau yw £49 fesul hysbyseb). Mynnwch gael eich gweld yn ein cyhoeddiadau – rydym bob amser yn chwilio am astudiaethau achos aelodau da sy’n dangos arfer da er mwyn helpu ysbrydoli pobl eraill i fynd ati i dyfu.
  • Disgowntiau a chynigion i aelodau: Disgowntiau gyda detholiad o gyflenwyr ar amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau, e.e. hadau, offer a mynediad i gynllun yswiriant gerddi cymunedol (yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a gwirfoddolwyr). Rydym hefyd yn cynnig disgowntiau i aelodau ar wasanaethau’r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol, yn cynnwys astudiaethau dichonoldeb, dylunio safle, ymgynghori cymunedol, hyfforddiant wedi’i deilwra, hwyluso, cyflwyniadau a sgyrsiau.

Mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM!

Yr unig amod o fod yn aelod yw eich bod yn cwblhau arolwg blynyddol i wirio a diweddaru’r wybodaeth sydd gennym am eich prosiect, ac i gadarnhau eich bod yn parhau’n ymroddedig i fod yn aelod o’r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol. Defnyddir y wybodaeth hon i’n helpu i adeiladu darlun diweddar o’r mudiad tyfu cymunedol ac i lobïo ar ran y sector yn gyffredinol.

Astudiaethau Achos

Mae ein hastudiaethau achos ysbrydoledig yn dangos sut rydym yn cefnogi aelodau i greu cyfleoedd i bobl leol. 

Cefnogi ni

Mae angen eich cymorth arnom i helpu trawsffurfio tir a bywydau. Darganfyddwch fwy a helpwch ni i ffynnu!