Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr cymorth pobl sydd eisiau ein helpu ni gyda’n gwaith i dyfu cymunedau gwell. Os hoffech wneud gwahaniaeth, mae rhai ffyrdd y gallwch ein helpu ni:

  • Rhoi rhodd – Bydd eich cymorth ariannol yn cryfhau ein gwaith craidd o gynorthwyo a hyrwyddo buddion ffermydd a gerddi cymunedol ledled y DU. Rhoddwch yma.
     
  • Cynnig eich sgiliau/amser – Os oes gennych sgìl penodol a allai fod o fudd i’n gwaith, hoffem glywed gennych. Gallai hyn gynnwys cynnig gwaith cyfreithiol heb dâl, gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus rhad ac am ddim, ardystiad gan enwogion a.y.y.b. Cysylltwch ag: [email protected] 
     
  • Gwirfoddoli – os hoffech wirfoddoli’n uniongyrchol mewn gardd gymunedol neu fferm ddinesig, defnyddiwch y cyfleuster chwilio yn yr adran Yn Eich Ardal Chi ar y wefan hon i ddod o hyd i leoedd yn agos atoch chi. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol, gan nad yw FfFfDGC yn trefnu lleoliadau gwirfoddol.

 

Dod yn aelod

Ymunwch â FfFfDGC fel aelod taledig, a gallwch fwynhau amrywiaeth wych o fuddion i’ch helpu i dyfu