Cymunedau Tyfu – Cael eich ysbrydoli

Rydym yn arwain, ysbrydoli, cynghori, arddangos a chynrychioli cannoedd o grwpiau tyfu cymunedol ledled y DU.

Rydym yn hoffi rhoi cymorth ymarferol fel ymweliadau safle, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau rhwydweithio. Os bydd ein haelodau eisiau arweiniad ar feysydd pwysig fel materion cyflogaeth, neu hyfforddiant llywodraethu, neu ddylunio safle, neu os ydyn nhw eisiau gwybod y ffordd orau i adeiladu gwely llysiau uchel, rydym yno i helpu.

Rydym yn gwneud pethau defnyddiol eraill hefyd, fel ein hadnoddau gwybodaeth ar-lein neu ledaenu’r gair am lwyddiant ysbrydoledig ein haelodau, yn ogystal â darparu e-gylchlythyrau a diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol sy’n llawn eitemau defnyddiol.

Rydym yn eirioli ar ran ein haelodau gyda chyrff rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, a sicrhau bod eu materion a’u hanghenion yn cael sylw gwneuthurwyr penderfyniadau. Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn golygu y gallwn weithredu’n gadarnhaol ar faterion hanfodol. Mae gweithio mewn partneriaeth yn caniatáu i ni helpu ein haelodau i ddod â buddion pellach i’w cymunedau lleol.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau i unrhyw sefydliad arall sy’n rhedeg fferm neu ardd gymunedol (er enghraifft, awdurdodau lleol, ysgolion, ymddiriedolaethau, ysbytai, cymdeithasau tai ac adeiladau cyhoeddus). 

Mae ein gwaith yn helpu:

  • 200 o ffermydd dinesig a ffermydd ysgol

  • 1,000 o erddi cymunedol

  • 200 o ffermydd dinesig a gerddi cymunedol sydd wrthi’n cael eu datblygu

Rhyngddyn nhw, mae ein haelodau yn cyflogi oddeutu 550 o bobl, yn ymgysylltu a grymuso miloedd o wirfoddolwyr, ac yn denu dros dair miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Eu trosiant blynyddol amcangyfrifiedig cyfunol yw £40 miliwn.

Gwella Bywydau Pobl

Mae llawer o bobl yn tybio bod ffermydd dinesig a gerddi cymunedol, a lleoedd gwyrdd eraill, yn lleoedd hyfryd i ymweld â nhw’n unig, lle caiff planhigion eu tyfu ac anifeiliaid eu cadw. Ond mae hyn yn bell o fod y darlun cyfan.

Mae’r prosiectau cymunedol yr ydym yn eu cefnogi a’u meithrin yn llwyddo i greu lle gwyrdd croesawgar, ac mae llawer ohonynt yn cynnig amrywiaeth ryfeddol o fuddion a chyfleoedd hefyd, a all gynnwys rhaglenni addysg, cynlluniau chwarae, mentrau byw’n iach, hyfforddiant gwaith a sgiliau, mentrau cymdeithasol, cyfleoedd i wirfoddolwyr, cynlluniau amgylcheddol, grwpiau therapi garddwriaethol, cyfleusterau i bobl ag anableddau... mae’r rhestr yn un faith! 

Tyfu Cymunedau

Ymuno â’r Ffederasiwn yw’r peth gorau a wnaethom. Maen nhw wedi ein helpu ni gyda’n cyfansoddiad ac wedi rhoi cyngor i ni ar statws elusennol. Mae bod yn rhan o rwydwaith eang wedi rhoi hygrededd i ni.

 

Thetford's Forgotten Garden, Norfolk

Tyfu Pobl

Mae wedi bod yn bleser mawr gwylio’r Ffederasiwn yn datblygu i fod yn fuddiol iawn yn y blynyddoedd diwethaf, uwchlaw popeth, o ran datblygu polisi cenedlaethol. Gobeithiaf y bydd hyn yn para dros y 30 mlynedd nesaf gan, yn fy marn i, nid oes unrhyw amheuaeth y bydd ei waith yn dod yn fwyfwy pwysig.

Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru