Mae Cultivating Communities yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, wedi’i sefydlu i ddarparu incwm ychwanegol i gefnogi nodau elusennol y Ffederasiwn (mae’n endid cyfreithiol ar wahân i FfFfDGC, i’w gwneud hi’n glir y cyflawnir unrhyw fasnachu er budd cymunedol).

Nod y Cwmni Buddiannau Cymunedol yw:

  • Datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda’r llywodraeth, awdurdodau lleol ac eraill.
  • Ffurfio perthnasoedd gyda sefydliadau eraill – gan gynnwys ein haelodau – i sicrhau caffael a chontractau eraill.
  • Rhannu gwybodaeth a chyngor gydag aelodau FfFfDGC ynghylch cynhyrchu incwm a mentrau cymdeithasol – yn seiliedig ar brofiad y Cwmni Buddiannau Cymunedol ei hun
  • Amrywio incwm FfFfDGC trwy ehangu gweithgareddau masnachu.

Rhai ffyrdd rydym yn defnyddio’r Cwmni Buddiannau Cymunedol:

  • Cymunedau’n Byw yn Gynaliadwy: Mewn partneriaeth â phedwar sefydliad elusennol arall, rydym yn darparu cymorth, cyngor ac arweiniad i bartneriaethau cymunedol lleol (a ariennir trwy’r rhaglen Cymunedau’n Byw yn Gynaliadwy).
  • Ffermio Gofal: Dyma’r defnydd therapiwtig o arferion ffermio ac mae’n dod yn boblogaidd yn y DU wrth i fwy o bobl gydnabod y gall ffermydd ddarparu cynhwysiant cymdeithasol, addysg, adfer, therapi a hyfforddiant sgiliau ar gyfer amrywiaeth o bobl dan anfantais neu bobl ymylol. Rydym yn darparu gwasanaeth rheoli gwefannau a gwasanaethau eraill i Care Farming UK.
  • Astudiaethau dichonoldeb a chynllunio busnes: Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad arbenigol i grwpiau lleol sy’n chwilio am safle ar gyfer gardd neu fferm newydd a reolir gan y gymuned, neu ddatblygu prosiect grŵp sefydledig sydd eisiau arallgyfeirio i feysydd newydd o weithgarwch.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag:

Ian Egginton-Metters drwy ffonio 0117 963 5210 neu 07939 230053. Fel arall, anfonwch neges e-bost at: [email protected]

 

Cefnogi ni

Mae angen eich cymorth arnom i helpu trawsffurfio tir a bywydau. Darganfyddwch fwy a helpwch ni i ffynnu!

Ein gwaith

Rydym yn un o elusennau blaenllaw’r DU, sy’n ymroddedig i gefnogi ffermydd dinesig, gerddi cymunedol a lleoedd gwyrdd eraill.