Nod Rhwydwaith Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Cymru yw hyrwyddo a chynorthwyo amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yng Nghymru. Mae Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned  yn bartneriaeth rhwng ffermwyr a defnyddwyr lle caiff cyfrifoldebau, risgiau a gwobrau ffermio eu rhannu. Nod y rhwydwaith yw:

  • Galluogi prosiectau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yng Nghymru i weithio gyda’i gilydd.
  • Rhannu sgiliau sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned rhwng unigolion a phrosiectau.
  • Hyrwyddo amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned yn ehangach ledled Cymru.
  • Cynorthwyo prosiectau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned newydd i ddechrau arni.
  • Cynnal cynulliadau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned i fodloni’r nodau a’r amcanion sydd yn y cyfansoddiad.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o’r rhwydwaith, cysylltwch â [email protected] i gael mwy o wybodaeth. Cewch wybodaeth am amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned ledled y DU ar www.communitysupportedagriculture.org.uk hefyd.

Cefnogi ni

Mae angen eich cymorth arnom i helpu trawsffurfio tir a bywydau. Darganfyddwch fwy a helpwch ni i ffynnu!

Ein gwaith

Rydym yn un o elusennau blaenllaw’r DU, sy’n ymroddedig i gefnogi ffermydd dinesig, gerddi cymunedol a lleoedd gwyrdd eraill.