ENGLISH

Trosolwg Mannau Gwyrdd Gwydn

Rhwng Medi 2021 a Mehefin 2023 buom yn arwain y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn. Galluogodd y prosiect partneriaeth hwn gwerth £1.27m ni i dreialu systemau bwyd amgen wedi’u hail-leoli yng Nghymru.

Nodau

Cyflwyno chwe ffrwd waith gydweithredol gyda'n partneriaid sy'n treialu systemau bwyd lleol. Cymunedau a’u mannau gwyrdd oedd y sbardun ar gyfer newid, a gwnaethant brofi’r hyn y gellir ei gyflawni o gael y gefnogaeth gywir, mynediad i dir a rhyddid i ddefnyddio eu cryfderau:

  1. Adeiladu Tîm Datblygu Rhandiroedd Cenedlaethol

  2. Hwbiau Bwyd Arloesol

  3. Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol

  4. Ymylon Gwyltt Ymylon Gwell

  5. Archwilio Mynediad Cymunedol i Ffermydd a Thir

  6. Meithrin Sgiliau Ffermio Garddwriaethol yn y Dyfodol

Partneriaid y prosiect

  • Social Farms & Gardens
  • Open Food Network UK
  • Shared Assets
  • Lantra
  • Land Workers' Alliance / Land Workers' Alliance Cymru
  • Development Trusts Association Wales
  • Gwynedd Council
  • Cardiff University

Arianwyr

Ariannwyd y prosiect drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Canlyniadau

Mae’r prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn wedi sicrhau manteision eang i gymunedau ac amgylcheddau ledled Cymru. Mae wedi gwella systemau bwyd, gyda phwyslais ar gynhyrchu lleol a ffermio amaeth-ecolegol. Mae cymunedau wedi datblygu'r hyder a'r sgiliau i ysgogi newid yn y dyfodol.

Bu ymchwilwyr o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr Bryste yn gweithio gyda’n tîm cyflwyno i ddatblygu Theori Newid ar gyfer pob ffrwd waith.

> Darllenwch adroddiad gwerthuso'r prosiect

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Archwiliwch y chwe ffrwd waith Mannau Gwyrdd Gwydn

Adeiladu Tîm Datblygu Rhandiroedd Cenedlaethol

Er mwyn bodloni’r galw cynyddol am ddarpariaeth rhandiroedd, fe wnaethom gynnull Tîm Datblygu Rhandiroedd cyntaf Cymru i gefnogi tirfeddianwyr a rheolwyr. Ein nod yw helpu i sicrhau bod mwy o dir ar gael, datblygu safleoedd newydd a gwella mynediad i bobl.

Mwy o fanylion   

                     

 

Hwbiau Bwyd Arloesol

Gan ddangos manteision cadwyni cyflenwi byr, fe wnaethom sefydlu pum Hyb Bwyd cymunedol ledled Cymru. Gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid, roedd y canolfannau’n cyflenwi bwyd a oedd yn dda i bobl, yr amgylchedd a busnesau lleol.

Mwy o fanylion

 

Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol

Nod y prosiect hwn oedd dod â newid sylweddol i gynhyrchu ffrwythau a reolir gan y gymuned yng Nghymru. Gan adeiladu ar ein gwaith yn y gorffennol i sefydlu perllannau yng Nghymru, fe wnaeth y prosiect hwn eu helpu i ffynnu. Fe wnaethom ganolbwyntio ar helpu cymunedau gyda storio, prosesu a chynhyrchu ffrwythau.

Mwy o fanylion

 

Ymylon Gwyltt Ymylon Gwell

Mae mannau gwyrdd sydd â chysylltiadau da yn werthfawr iawn i bobl ac i fywyd gwyllt. Gan weithio gyda chyngor yng ngogledd orllewin Cymru, gwnaethom rymuso cymunedau i reoli eu mannau gwyrdd cyhoeddus.

Mwy o fanylion

 

Archwilio Mynediad Cymunedol i Ffermydd a Thir

Gall cost fod yn rhwystr, ond mae gan ffermio cynaliadwy botensial aruthrol ar gyfer daioni. Archwiliodd ein partneriaid Landworkers' Alliance Cymru a Shared Assets heriau a chyfleoedd mynediad tir yng Nghymru. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar newydd-ddyfodiaid a chymunedau lleol sydd â diddordeb mewn ffermio agroecolegol.

Mwy o fanylion

 

Meithrin Sgiliau Ffermio Garddwriaethol yn y Dyfodol

Mae ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant yn allweddol i gynnal dyfodol bwyd lleol. Mae ein partneriaid wedi mapio anghenion hyfforddi garddwriaethol ac wedi datblygu hyfforddiant newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyfwyr bwyd.

Mwy o fanylion

 

rgs_partners_banner_2_lines_4_0_0.png

 

Case Studies

Inspirational case studies from our members across the UK.

Events

Includes our own training events and workshops, and selected events and training run by organisations in the sector we think might be relevant. We aim to share the buzz and keep you informed.