ENGLISH

Mannau Gwyrdd Gwydn – Hwbiau Bwyd Arloesol

copy_of_unnamed_design_680_x_340px_0.png

Gweithio gyda FfaGC, mae Open Food Network, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chynghrair Gweithwyr y Tir wedi ymuno i sefydlu pum canolfan fwyd fentrus a chynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru i ddarparu bwyd sy'n dda i bobl, yn dda i'r amgylchedd ac yn dda i fusnesau lleol drwy hyrwyddo cadwyni cyflenwi byr. Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn.

Ym mis Hydref 2021 gofynnwyd i sefydliadau ddweud wrthym sut y gallem gefnogi eu gweledigaeth, ac yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r pum sefydliad a lwyddodd i gael eu dewis i ddatblygu hyb bwyd oedd:

•    Siop Griffiths, Penygroes
•    Partneriaeth Ogwen, Bethesda
•    Canolfan Maerdy, Ammanford
•    EcoDewi, St Davids
•    Cwm Food Hub yn Welcome to our Woods, Rhondda

Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r grwpiau hyn a byddwn yn postio diweddariadau rheolaidd a chynnydd yma, ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae Mannau Gwyrdd Gwydn yn brosiect partneriaeth gwerth £1.27m sy'n cael ei arwain gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i dreialu systemau bwyd eraill sydd wedi'u hail-leoleiddio gan ddefnyddio cymunedau a'u mannau gwyrdd fel y sbardun ar gyfer newid ledled Cymru tan fis Mehefin 2023. Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

rgs_partners_banner_2_lines_4_2.png