Os hoffech ein helpu ni i blannu hedyn a thyfu cymuned, yn ogystal â chael cysylltiadau cyhoeddus gwych a chyflawni eich cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol, yna cysylltwch â ni.
Rydym wedi gweithio gyda nifer o bartneriaid corfforaethol yn y gorffennol, gan gynnwys:
- Kings Seeds
- Bulldog Tools
- Ecover
- Tyrrells
- Morissons
- Marks & Spencer
- The Cooperative
- Country Living
Mae digon o bosibiliadau ar gyfer gweithio gyda’n gilydd. Gallem:
- Sefydlu cynllun rhandir/garddio yn y gweithle yn eich prif swyddfeydd.
- Sefydlu cynllun arian cyfatebol ar gyfer ein haelodau sydd eisiau cael cyllid torfol ar gyfer prosiect.
- Cyflawni prosiectau penodol a ariennir gan grantiau, fel y rheiny sy’n ymwneud â gwirfoddoli corfforaethol.
- Creu neu addasu llinell frand lle mae FfFfDGC yn cael rhan o’r holl werthiant.
- Lansio prosiect cymunedol neu brosiect addysg, sy’n ymwneud â thyfu bwyd, bywyd gwyllt, balchder lleol neu fater arall.
- Gweithio gyda’n gilydd ar gystadlaethau neu ddisgowntiau ar gyfer ein haelodau.
I drafod syniadau a meithrin perthynas a fydd o fudd i bawb, ffoniwch ni ar 0117 923 1800 neu anfonwch neges e-bost at j[email protected]
Dod yn aelod

Ymunwch â FfFfDGC fel aelod taledig, a gallwch fwynhau amrywiaeth wych o fuddion i’ch helpu i dyfu
Ein gwaith

Rydym yn un o elusennau blaenllaw’r DU, sy’n ymroddedig i gefnogi ffermydd dinesig, gerddi cymunedol a lleoedd gwyrdd eraill.